Pierhead Bees | Gwenyn y Pierhead

 

I visited the Pierhead Building in Cardiff Bay, to go and take a look at something few people know is there.

On the roof of the Pierhead, there are three working beehives, and when I visited there were over 30,000 bees working hard to make honey and look after the queen.

I also got to see two bees hatching whilst we were visiting!

The Pierhead Bees fly up to 3 miles every day, meaning they could have paid you a visit if you’re in Butetown, the Bay, Grangetown, Splott or Penarth.

As well as producing honey, bees are absolutely vital for our ecosystem. The reason for my visit was to mark World Bee Day, which was earlier in the week. World Bee Day helps spread awareness and understanding of the important role bees play as pollinators, helping to maintain the diversity of plants we need to sustain our ecosystems.

Putting on the bee-safe suit and watching them in action was a great way to get a sense of just how many bees are needed to do these important jobs even in a relatively small area.

—-

Ymwelais ag Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, i edrych ar rywbeth nad oes llawer o bobl yn gwybod sydd yno.

Ar do’r Pierhead, mae tri chwch gwenyn, a phan ymwelais i, roedd dros 30,000 o wenyn yn gweithio’n galed i wneud mêl a gofalu am y frenhines.

Cefais gyfle hefyd i weld dwy wenynen yn deor tra'r oeddem yn ymweld!

Mae Gwenyn y Pierhead yn hedfan hyd at 3 milltir bob dydd, sy’n golygu y gallen nhw fod wedi ymweld â chi os ydych chi yn Butetown, y Bae, Grangetown, y Sblot neu Benarth.

Yn ogystal â chynhyrchu mêl, mae gwenyn yn gwbl hanfodol i'n hecosystem. Y rheswm dros fy ymweliad oedd dathlu Diwrnod Gwenyn y Byd, a gynhaliwyd yn gynharach yn yr wythnos. Mae Diwrnod Gwenyn y Byd yn helpu i ledaenu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o rôl bwysig gwenyn fel peillwyr, gan helpu i gynnal yr amrywiaeth o blanhigion sydd eu hangen arnom i gynnal ein hecosystemau.

Roedd gwisgo’r siwt gwenyn-ddiogel a’u gwylio wrth eu gwaith yn ffordd wych o gael syniad faint yn union o wenyn sydd eu hangen i wneud y swyddi pwysig hyn hyd yn oed mewn ardal gymharol fach.

 
Previous
Previous

Penarth Beach Businesses | Busnesau Traeth Penarth

Next
Next

Aspen Grove Housing Development | Datblygiad Tai Aspen Grove