Aspen Grove Housing Development | Datblygiad Tai Aspen Grove
Along with Cardiff Council Cabinet Member for Housing, and Grangetown Councillor, Lynda Thorne, I visited the new Aspen Grove housing development in Rumney recently to have a look at the progress on the site, which is a partnership between Cardiff Council and construction company Wates.
Once completed, the whole site will have 149 homes. This will include two, three, four, and five bedroom homes, semi-detached and detached homes, and three-storey townhouses.
In addition, the site includes Addison House - one of Cardiff Council’s new state of the art Community Living schemes, with living solutions for older generations.
One of the fantastic things about the housing on the site is that it is at the cutting edge of sustainable living and energy efficiency. Houses are fitted with solar panels built into the designs, with the energy they generate stored in a battery fitted very discreetly inside each home. Each home also has a ground source heat pump to help heat the home, and high standards of insulation.
The homes will be up to 60% cheaper to run than homes of similar sizes - so good for the environment, and good for people’s pockets.
For more information, you can go here.
—-
Ynghyd ag Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Dai, a’r Cynghorydd Grangetown, Lynda Thorne, ymwelais â datblygiad tai newydd Aspen Grove yn Nhredelerch yn ddiweddar i edrych ar y cynnydd ar y safle, sy’n bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd a’r cwmni adeiladu Wates.
Ar ôl ei gwblhau, bydd gan y safle cyfan 149 o gartrefi. Bydd hyn yn cynnwys tai dwy, tair, pedair, a phum ystafell wely, tai pâr a thai sengl, a thai trefol tri llawr.
Yn ogystal, mae'r safle'n cynnwys Addison House - un o gynlluniau Byw yn y Gymuned newydd Cyngor Caerdydd, gydag atebion byw ar gyfer cenedlaethau hŷn.
Un o’r pethau gwych am y tai ar y safle yw eu bod yn flaenllaw o ran byw’n gynaliadwy ac effeithlonrwydd ynni. Mae paneli solar wedi’u cynnwys yn nyluniadau’r tai, gyda’r ynni maen nhw’n ei gynhyrchu yn cael ei storio mewn batri sydd wedi’i osod ym mhob cartref. Mae gan bob cartref hefyd bwmp gwres o’r ddaear i helpu i wresogi’r cartref, a safonau inswleiddio uchel.
Bydd y cartrefi hyd at 60% yn rhatach i’w rhedeg na chartrefi o faint tebyg – felly’n dda i’r amgylchedd, ac yn dda i bocedi pobl.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch yma.