Commemorating World AIDS Day | Coffáu Diwrnod AIDS y Byd
It was a pleasure to join campaigners at the World AIDS Day event in Cardiff. This year’s event marked 30 years since the ‘Tree of Life’ was planted in Gorsedd Gardens in Cathays – a memorial to those in Wales who have died of AIDS, as well as those who continue to be impacted.
One of my proudest roles as an MP was chairing the All-Party Parliamentary Group for HIV and AIDS - a cross-party effort to fight for the rights of those living with HIV and AIDS - and I am delighted that the commitment to tackling HIV and AIDS continues to be strong in Wales and at the UK level.
But despite the huge progress in 30 years there is still much to do locally and internationally to end new transmissions, combat stigma, and ensure universal access to prevention, treatment and care.
___
Pleser oedd ymuno ag ymgyrchwyr yn nigwyddiad Diwrnod AIDS y Byd yng Nghaerdydd. Roedd y digwyddiad eleni yn nodi 30 mlynedd ers plannu’r ‘Goeden Fywyd’ yng Ngerddi’r Orsedd yn Cathays - coeden sy’n coffáu'r rhai sydd wedi marw o AIDS yng Nghymru, yn ogystal â'r rhai sy’n parhau i gael eu heffeithio.
Un o fy uchafbwyntiau fel Aelod Seneddol oedd cadeirio’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar HIV ag AIDS - ymdrech drawsbleidiol i ymgyrchu dros hawliau i’r bobl sy’n byw â HIV ac AIDS. Rwy’n falch iawn fod Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi ymroi o hyd i fynd i'r afael â HIV ac AIDS.
Er bod cynnydd aruthrol wedi bod yn y 30 mlynedd diwethaf, mae gwaith i'w wneud o hyd, yn lleol ac yn rhyngwladol, er mwyn stopio trosglwyddiadau newydd, mynd i’r afael â stigma, a sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar raglenni atal, triniaethau, a gofal.