City centre walkabout with local police | Cerdded o gwmpas canol dinas Caerdydd gyda’r heddlu lleol

It was fascinating to see the efforts that go on behind-the-scenes during busy nights in Cardiff city centre, and to speak with the support services who work hard to keep residents and visitors safe.  

Thanks to South Wales Police Inspector Adrian Snook and his team, I was able to meet the volunteers and PCSOs who run our local safety buses; the local nurses and health workers who run the emergency treatment centre; the taxi marshalls who help get people home safely; and the many PCSOs and PCs from South Wales Police and city centre wardens - all doing vital work to keep the city centre safe. We also had lots of important discussions about ways we can improve the city centre experience – both at night and in the day.

___

Profiad diddorol iawn oedd gweld cymaint o waith yn digwydd y tu ôl i’r llen ar nosweithiau prysur yng nghanol dinas Caerdydd, a chael cyfle i siarad â’r gwasanaethau cymorth sy’n gweithio’n ddiflino i gadw preswylwyr ac ymwelwyr yn ddiogel.  

Diolch i Adrian Snook, arolygydd gyda Heddlu De Cymru, a’i dîm, cefais gwrdd â phob math o bobl sy’n gwneud gwaith allweddol yng Nghaerdydd er mwyn cadw canol y ddinas yn ddiogel. Mae’r rhain yn cynnwys gwirfoddolwyr a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu sy’n cynnal y gwasanaeth bysiau diogelwch; nyrsys a gweithwyr iechyd sy’n rhedeg y ganolfan triniaethau brys; swyddogion tacsis sy’n helpu pobl i gyrraedd adref yn ddiogel; nifer o Swyddogion Cymorth Cymunedol a Chwnstabliaid Heddlu De Cymru.  Cefais i nifer o drafodaethau am sut y gallwn ni wella profiadau pobl yng nghanol y ddinas - yn y nos a’r dydd.

Previous
Previous

Commemorating World AIDS Day | Coffáu Diwrnod AIDS y Byd

Next
Next

New kitchen at St Michael and All Angels Church | Cegin newydd yn Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion