Catching up with local Councillors | Cael sgwrs â Chynghorwyr lleol
It was good to catch up with Butetown Councillor Saeed Ebrahim to discuss issues including local housing developments, waste and cleansing, transport, policing and business.
I also met up with Vale of Glamorgan Council Leader Lis Burnett and Cabinet Member Mark Wilson - also local Penarth Councillors - to discuss a range of issues including investment in schools and social services, housing, community safety, investment in our local green spaces and sustainability, and making the most of our amazing local history, beauty and tourism spots across the Vale of Glamorgan.
___
Braf oedd cael sgwrs â Saeed Ebrahim, Cynghorydd Butetown, er mwyn trafod materion a oedd yn cynnwys datblygiadau tai lleol, gwastraff a glanhau, trafnidiaeth, plismona, a busnes.
Cefais i gyfle hefyd i gwrdd â Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, a Mark Wilson, Aelod o'r Cabinet - sydd ill dau yn Gynghorwyr ym Mhenarth - er mwyn trafod amrywiaeth o wahanol bynciau a oedd yn cynnwys buddsoddiad mewn ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, tai, diogelwch cymunedol, buddsoddiad yn ein hardaloedd gwyrdd lleol a chynaliadwyedd, a sut i fanteisio ar hanes lleol, harddwch a mannau twristiaeth Bro Morgannwg.