Ramadan in Butetown | Ramadan yn Butetown

 

With the Holy Month of Ramadan upon us, Muslims across our communities in Cardiff South and Penarth have been fasting, observing prayers, working hard to help others at home and all over the world.

I joined members of the Muslim community at the South Wales Islamic Centre (Alice Street Mosque) in Butetown to break their fast - the daily ceremony during Ramadan when the sun goes down, called iftar. It is always a real honour to be invited to mosques in our constituency during prayers, and a really useful way to engage with constituents on all of the every day issues affecting them. This is even more of an honour during Ramadan, when the moqsues are particularly full during the daily prayers, and particularly before iftar.

After prayers, with some fantastic food provided by a local Yemeni restaurant, I was able to speak to constituents about a range of issues from local anti-social behaviour and housing issues, to global issues affecting the families of many who live locally in Cardiff South and Penarth.

I’d like to wish Muslims across our constituency a happy Ramadan - Ramadan Mubarak!

Gyda Mis Sanctaidd Ramadan bron â chyrraedd, mae Mwslimiaid ar draws ein cymunedau yn Ne Caerdydd a Phenarth wedi bod yn ymprydio, yn arsylwi gweddïau, yn gweithio’n galed i helpu eraill gartref ac ar draws y byd.

Ymunais ag aelodau o’r gymuned Fwslimaidd yng Nghanolfan Islamaidd De Cymru (Mosg Alice Street) yn Butetown i dorri eu hympryd – y seremoni ddyddiol yn ystod Ramadan pan fydd yr haul yn machlud, sef iftar. Mae’n wastad yn anrhydedd cael gwahoddiad i fosgiau yn ein hetholaeth yn ystod gweddïau, ac yn ffordd ddefnyddiol iawn o ymgysylltu ag etholwyr ar yr holl faterion bob dydd sy’n effeithio arnynt. Mae hyn hyd yn oed yn fwy o anrhydedd yn ystod Ramadan, pan mae’r mosgiau yn arbennig o lawn yn ystod y gweddïau dyddiol, ac yn enwedig cyn iftar.

Ar ôl gweddïo, gyda bwyd gwych wedi cael ei ddarparu gan fwyty Yemenïaidd lleol, roedd cyfle i siarad ag etholwyr am amrywiaeth o faterion, o ymddygiad gwrthgymdeithasol lleol a materion tai, i faterion byd-eang sy’n effeithio ar deuluoedd llawer o bobl sy’n byw’n lleol yn Ne Caerdydd a Phenarth.

Hoffwn ddymuno Ramadan hapus i Fwslimiaid ar draws ein hetholaeth - Ramadan Mubarak!

Audio Block
Double-click here to upload or link to a .mp3. Learn more
 
Previous
Previous

Aspen Grove Housing Development | Datblygiad Tai Aspen Grove

Next
Next

Llandough Primary School Cafe | Caffi Ysgol Gynradd Llandochau