Visiting Headway | Ymweld â Headway
Headway is a UK-wide charity dedicated to supporting individuals who have suffered brain injuries, as well as raising awareness and understanding of brain injuries.
I had the opportunity to visit Headway’s centre at University Hospital Llandough, where I was able to hear all about the crucial work that they do. It was also great to meet some of their service users, including David Sinden, the inspirational winner of last year’s Alex Richardson Achiever of the Year Award.
___
Mae Headway yn elusen sy’n gweithio ledled y DU ac maent wedi ymrwymo i gefnogi unigolion sydd wedi cael anafiadau i'r ymennydd, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth pobl o anafiadau i'r ymennydd.
Cefais i’r cyfle i ymweld â chanolfan Headway yn Ysbyty Athrofaol Llandochau a chael gwybod am yr holl waith allweddol maen nhw’n ei wneud, yn ogystal â chwrdd â rhai o’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Un o'r rhain oedd David Sinden, enillydd ysbrydoledig gwobr Cyflawnwr y Flwyddyn Alex Richardson.