Meeting the UK Rail Minister | Cwrdd â Gweinidog Rheilffyrdd y Deyrnas Unedig
It was good to meet the UK Rail Minister Lord Hendy in my capacity as constituency MP for Cardiff South and Penarth.
I was able to raise concerns over train performance from GWR, significant issues highlighted to me by both customers and staff, the reliability and resilience of the train infrastructure (including from flooding), and the planned disruption that my constituents may face as a knock-on effect from works at Old Oak Common. We also discussed the government’s efforts to address these concerns, and future plans for the rail network.
The launch in September of Shadow Great British Railways (Shadow GBR) has set in motion a huge overhaul of the running of the rail network, bringing together leaders from the Department for Transport, Network Rail and publicly-owned operators.
Shadow GBR will pave the way for Great British Railways – a new unified arm’s length body responsible for bringing track and train back together and overseeing both services and infrastructure.
The UK Government will prioritise passengers over private companies and reverse decades of delays, cancellations and unreliable services on Britain’s railways.
We will of course closely work with Transport for Wales and the local services already undergoing huge investment and improvement from the Welsh Government here in South Wales.
___
Roedd hi’n dda cwrdd â’r Arglwydd Hendy, Gweinidog Rheilffyrdd y Deyrnas Unedig, yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Seneddol dros Etholaeth De Caerdydd a Phenarth.
Cefais gyfle i godi pryderon ynglŷn â materion amrywiol a oedd yn cynnwys perfformiadau trenau’r GWR; materion pwysig oedd wedi eu codi gan gwsmeriaid a staff; dibynadwyedd a gwytnwch seilwaith y trenau (mewn llifogydd); y gwaith yn Old Oak Common, fydd yn cael effaith uniongyrchol ar fy etholwyr. Trafodon ni ymdrechion y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r pryderon hyn, a’r cynlluniau sydd ar droed ar gyfer rhwydwaith y rheilffyrdd.
Bydd lansiad Rheilffyrdd Prydain Fawr – Cysgodol (GBR Cysgodol) ym mis Medi yn ailwampio’r rhwydwaith drenau’n llwyr, ac yn dod ag arweinwyr yr Adran Drafnidiaeth, Network Rail, a chwmnïau sy’n eiddo cyhoeddus at ei gilydd.
Bydd GBR Cysgodol, corff hyd braich newydd sy’n gyfrifol am ailwampio'r system rheilffyrdd gan oruchwylio gwasanaethau a seilwaith y trenau, yn arwain y ffordd ar gyfer GBR.
Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn blaenoriaethu teithwyr dros gwmnïau preifat, ac yn gwneud yn iawn am ddegawdau o oedi, trenau’n cael eu canslo, a gwasanaeth annibynadwy ar reilffyrdd Prydain.
Byddwn ni’n gweithio â Thrafnidiaeth Cymru a’r gwasanaethau lleol sydd yn barod wedi derbyn buddsoddiadau enfawr gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwella’r system reilffordd yn Ne Cymru.