Visit to Wolf Studios Wales | Ymweliad â Stiwdio Blaidd Cymru
It was fantastic to return to Wolf Studios Wales here in Cardiff, to catch up with Chief Operating Officer Natasha Hale, and Founder and Executive Producer Jane Tranter. Such wonderful work goes on there, from the creation of fan-favourite shows like Doctor Who and Industry, to their brilliant education and training scheme designed to help young people excel in the creative industries.
The studios have 140,000 square feet of stage space, including one stage standing at 57.5ft - the tallest in Wales - and as a huge Doctor Who fan, it was a real treat to see the TARDIS (it’s certainly bigger on the inside)!
Over 30,000 people in Wales are employed in the creative industries, and I’m proud to have a world-class production company and studio in my constituency.
___
Roeddwn i wrth fy modd yn cael dychwelyd i Stiwdio Blaidd Cymru yma yng Nghaerdydd i sgwrsio â Natasha Hale y Prif Swyddog Gweithredu a Jane Tranter, Sylfaenydd y stiwdio a’r Cynhyrchydd Gweithredol Mae gwaith arbennig yn digwydd yma. Nhw sy’n creu rhaglenni poblogaidd fel Doctor Who ac Industry, ac maen nhw hefyd yn darparu cynllun addysg a hyfforddiant sydd wedi ei ddylunio i helpu pobl ifanc i ragori yn y diwydiannau creadigol.
Mae 140,000 metr sgwâr o safleoedd llwyfan yn y Stiwdio, ac mae un o’r llwyfannau yn mesur 57.5 troedfedd - y llwyfan talaf yng Nghymru! Fel gwyliwr Dr Who brwd, roedd cael gweld y TARDIS yn gyffrous dros ben (gallaf i gadarnhau ei fod yn fwy ar y tu mewn)!
Mae dros 30,000 o bobl yng Nghymru yn gweithio yn y diwydiannau creadigol, ac rwy’n falch iawn bod cwmni a stiwdio cynhyrchu o safon fyd-eang yn fy etholaeth.