Discussions with local businesses | Trafodaethau gyda busnesau lleol
I joined local businesses and my constituency colleague Vaughan Gething MS in a useful business roundtable set up by Barclays Eagle Labs and Tramshed Tech in Grangetown. We discussed a range of issues, from tackling late payments to the ongoing challenges related to the cost of living crisis.
We also discussed opportunities for the region, including economic prospects, attracting and retaining young talent, and securing investment for SMEs.
___
Ymunais â busnesau lleol a’m cydweithiwr yn yr etholaeth, Vaughan Gething AS, mewn digwyddiad bwrdd crwn busnes defnyddiol a drefnwyd gan Barclays Eagle Labs a Tramshed Tech yn Grangetown. Buom yn trafod ystod o faterion, o fynd i’r afael â thaliadau hwyr i’r heriau parhaus sy’n gysylltiedig â’r argyfwng costau byw.
Buom hefyd yn trafod cyfleoedd ar gyfer y rhanbarth, gan gynnwys rhagolygon economaidd, denu a chadw talent ifanc, a sicrhau buddsoddiad ar gyfer busnesau bach a chanolig.