Cardiff For Ukraine | Caerdydd dros Wcráin
I joined my friend, Kyiv MP Lesia Zaburanna, at the Cardiff For Ukraine hub, to celebrate the ever deeper partnership and friendship between Cardiff, Wales and Ukraine during these difficult times.
I’ve been able to visit Lesia’s constituency in Ukraine and have seen the reality of life for Ukrainian people under brutal Russian missile and drone attacks. We already have a long history together - but it is all the more important that we stand together resolutely.
It was a pleasure to be interviewed by school students recently tutored in interview techniques by their lecturer Larysa Martseva. And we met hub volunteers, those who have been organising support for Ukraine locally, and of course many of the Ukrainian young people and families currently being hosted here.
___
Ymunais â’m ffrind, AS Kyiv Lesia Zaburanna, yn hyb Caerdydd dros Wcráin, i ddathlu’r bartneriaeth a’r cyfeillgarwch dwfn rhwng Caerdydd, Cymru ac Wcráin yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Rydw i wedi gallu ymweld ag etholaeth Lesia yn Wcráin ac wedi gweld realiti bywyd trigolion Wcráin o dan ymosodiadau ciaidd taflegrau a dronau Rwsia. Mae gennym ni hen hanes gyda'n gilydd yn barod - ond mae'n bwysicach fyth ein bod ni'n sefyll gyda'n gilydd yn gadarn.
Bu’n bleser cael fy nghyfweld gan fyfyrwyr ysgol a gafodd eu tiwtora yn ddiweddar mewn technegau cyfweld gan eu darlithydd Larysa Martseva. Ac fe wnaethon ni gwrdd â gwirfoddolwyr yr hyb, y rhai sydd wedi bod yn trefnu cymorth i Wcráin yn lleol, ac wrth gwrs, nifer o bobl ifanc Wcráin a’u teuluoedd sy’n cael eu lletya yma ar hyn o bryd.